Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Mai 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Tom Giffard (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu dosbarthiad llety hunanarlwyo at ddibenion treth leol?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
(5 munud)
NNDM8010 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Alun Davies (Llafur Cymru).
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Datgarboneiddio pensiynau’r sector cyhoeddus
(60 munud)
NDM7964 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Llywodraeth Cymru oedd y cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;
b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;
c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;
d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;
e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus.
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr)
6 Dadl ar ddeiseb P-06-1249 - Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru
(30 munud)
NDM8008 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1249 Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â Syndrom Tourette yng Nghymru’ a gasglodd 10,393 o lofnodion.
7 Dadl Plaid Cymru - Cyllid ar ôl Brexit
(60 munud)
NDM8009 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu nad yw ffrydiau ariannu ar ôl Brexit yn gweithio i Gymru.
2. Yn gresynu at y ffaith y bydd Cymru £1 biliwn ar ei cholled o ran cyllid na chafwyd arian yn ei le dros y tair blynedd nesaf.
3. Yn credu bod trefniadau newydd sy'n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU wedi tanseilio gallu Llywodraeth Cymru i gynllunio gwariant yn strategol er budd Cymru a'i chymunedau.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i adfer goruchwyliaeth ddemocrataidd Cymru dros y ffrydiau ariannu ar ôl Brexit drwy eu datganoli i'r Senedd.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i rymuso cymunedau lleol yng Nghymru drwy’r agenda ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin.
2. Yn croesawu'r cadarnhad a gafwyd dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei cholled o ran cyllid ar ôl ymadael â'r UE.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r ffordd y gweinyddir cronfeydd yr UE o dan gynlluniau'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd fel bod buddsoddiad gan y ddwy lywodraeth yn y dyfodol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Cymru.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8007 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Bioamrywiaeth: y darlun mawr. Hau'r dyfodol - pwysigrwydd rheoli ymylon glaswellt a glaswelltiroedd
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Mehefin 2022